Support over Christmas/Cymorth dros y Nadolig

Thursday 12-12-2024 - 14:57
Support over christmas eng

Wrexham Students’ Union will be closed from Friday, 20th December and will reopen on Monday, 6th January. We will not be holding SU Advice appointments or monitoring emails during the time we are closed.

We would like to share some resources that you can access over the Christmas period if you find that you are in need of support, as we understand that this time of year can be difficult for some.

Access support links on our Health and Wellbeing page

If you are worried about your immediate safety and feel at risk of harming yourself, please access help immediately.

Call 999 for Emergency Services or attend your Local Accident and Emergency. You can take yourself or get someone to take you to A&E. Wrexham Maelor is the local hospital for local students and students living on-site.

As a Wrexham University student, you have access to TalkCampus, a free online resource with a downloadable app containing advice and information tailored specifically towards student health and wellbeing.

The Students' Union team wishes you a happy and healthy Christmas holiday and we look forward to seeing you again in January.

 

 

Bydd Undeb Myfyrwyr Wrecsam yn cau o ddydd Gwener, 20fed Rhagfyr ymlaen tan ddydd Llun, 6ed Ionawr. Fyddwn ni ddim yn cynnal apwyntiadau Cynghori UM na chadw golwg ar e-byst yn ystod y cyfnod y byddwn ni ar gau.

Gan ein bod ni’n deall y gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn anodd i rai, hoffem rannu ychydig o adnoddau y gallwch fanteisio arnynt dros gyfnod y Nadolig os byddwch chi’n gweld fod angen cymorth arnoch.

Ceir dolenni i gymorth ar ein tudalen Iechyd a Llesiant.  

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch yn y man a’r lle a meddwl bod perygl eich bod am eich brifo eich hun, chwiliwch am help ar unwaith.

Ffoniwch 999 ar gyfer y Gwasanaethau Brys neu ewch i’ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys Lleol. Mae modd i chi fynd â chi’ch hun neu ofyn i rywun fynd â chi i’r Adran Brys. Maelor Wrecsam yw’r ysbyty leol agosaf i fyfyrwyr lleol a myfyrwyr sy’n byw ar y safle.

Fel myfyriwr/wraig Prifysgol Wrecsam, mae modd i chi fanteisio ar TalkCampus, adnodd ar-lein sy’n rhad ac am ddim y gellir ei lawrlwytho i’ch ffôn. Trwy’r app hwn, ceir cyngor a gwybodaeth wedi’u teilwra’n benodol i iechyd a llesiant myfyrwyr.  

Dyma ddymuno gwyliau Nadolig iach a hapus i chi ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi eto ym mis Ionawr.

 

Written by Lauren Hole, Communications & Engagement Coordinator

Like us on Facebook

Follow us on Instagram

Follow us on Twitter

Subscribe to our YouTube channel

Related Tags :

More Glyndŵr Students' Union Articles

More Articles...

Company number: 10111959
Registered Charity: 1168132